Bydd gwersylla’r ŵyl ar safle Gwersylla a Charafannau’r Tri Chlogwyn, ¼ milltir i lawr yr heol o’r ganolfan, gyda golygfeydd hardd o Fae’r Tri Chlogwyn. Ewch i’w gwefan am fwy o wybodaeth am y cyfleusterau. I gyrraedd y safle gwersylla yn y car, gyrrwch drwy Parkmill (heibio’r Ganolfan Treftadaeth ar y dde) ac i fyny’r tyle allan o’r pentref. Ar frig y tyle mae Penmaen ac mae’r safle gwersylla i lawr lôn fach i’r chwith (wedi’i arwyddbostio). Mae’n droad eithaf siarp. Y côd post yw SA3 2HB.
Mae llwybr i lawr drwy’r goedwig i’r ŵyl, (ond nid yw’n addas ar gyfer cadeiriau olwyn na bygis babanod). Mae bws am ddim yr ŵyl yn mynd yn ôl i’r safle gwersylla ar ddiwedd pob nos. Rydym wedi cytuno ar bris ffafriol i ddeiliaid tocynnau penwythnos, sydd am y tair noson. Os ydych chi yn dod am noson neu ddwy yn unig, mae manylion y prisiau ar y ffurflen archebu tocynnau (gweler y dudalen tocynnau). Noder fod cyfyngiad ar y nifer o lefydd sydd ar gael i’r Ŵyl ar safle Bae’r Tri Chlogwyn. Os byddwch yn archebu mewn da bryd, ni ddylai fod problem. Mae manylion cyswllt safleoedd gwersylla lleol eraill ar ein gwefan, ond nid yw’r bws yn mynd yn ôl iddynt.
The information given on this website is correct to the best of our knowledge. We reserve the right to make changes where this is unavoidable.