CLWB GWERINfestival session 3

Cynhelir Clwb Gwerin Halfpenny yn y Greyhound Inn, Oldwalls, Llanrhidian, y Gŵyr, bob nos Sul. Mae’n dechrau am 8.30pm, mae artistiaid gwadd bob mis  a nosweithiau cantorion rhyngddynt gyda chroeso i bawb i ddod i ganu, i chwarae neu i wrando.  Mae’r nosweithiau cantorion am ddim, ond mae tâl am y nosweithiau artistiaid gwadd.

Rydym hefyd yn cynnal sesiwn fisol yn y Capel yn Parkmill, fel arfer ar nos Fercher gyntaf y mis, am 7.30pm.  Mae’n agored i unrhyw offeryn ac unrhyw safon, ac mae’n cynnwys alawon dawns o wledydd amrywiol.  Mae croeso i unrhyw un ddod â’u hoff alawon gyda nhw a byddwn ni’n eu dysgu.  Rydym yn dysgu’r alawon i’n gilydd drwy ddefnyddio’r glust, ond mae cerddoriaeth ar gael fel arfer.

Gwiriwch y manylion gyda Joy.

Ewch i wefan y Clwb Gwerin am fanylion.  Yr artistiaid gwadd yn y dyfodol fydd:


  • 12.09.2010 Chris Newman & Maire Ni Chathasaigh
  • 24.10.2010 Steve Turner
  • 14.11.2010 Christi Andropolis & Dave Newey
  • 05.12.2010 Dick Gaughan
  • 19.12.2010 Parti


 
 The information given on this website is correct to the best of our knowledge.
We reserve the right to make changes where this is unavoidable.
  Site Map