|
HAFAN A NEWYDDION DIWEDDARAF
  
Tudalen Newyddion
NEWYDDION DIWEDDARAF... diweddarwyd 18 Ionawr 2012
TOCYNNAU 2012 AR WERTH
Gwyl 2012: 8 - 10 Mehefin
Sylwer ein bod yn gwneud ein gorau i ddiweddaru tudalennau Cymraeg y wefan
hon, ond efallai y bydd ychydig o
ddyddiau o oedi pan fyddwn yn cyhoeddi
newyddion brys – neu byddai rhaid i chi ddioddef fy Nghymraeg gwael. Ymddiheurwn os bydd hyn yn digwydd. Ac, yn anffodus, mae ein grŵp Facebook a
chyfrif Twitter yn uniaith Saesneg ar hyn o bryd.
Mae gwerthiant tocynnau’n dda hyd yn hyn; cafodd mwy na hanner eu gwerthu
erbyn diwedd mis Ionawr. Nid ydym wedi
argraffu’n taflen wybodaeth eto, felly dywedwch wrth eich ffrindiau sydd heb
brynu tocyn fod angen iddynt wneud hynny cyn bo hir. Gallwch lawrlwytho’r ffurflen cadw lle o’r
dudalen “Tocynnau”.
Mae’r holl gerddorion wedi’u cadarnhau bellach,
felly ewch i’r dudalen “Artistiaid” i gael mwy o wybodaeth amdanynt, gan
gynnwys dolenni i’w gwefannau. Mae
manylion am bryd byddant yn perfformio ar y dudalen “Rhaglen”.
Nid yw amserau’r
gweithdai wedi’u cadarnhau eto, ond mae manylion ar y dudalen “Gweithdai” am ba
ddiwrnod y cynhelir hwy…
Diolch i Gyngor
Celfyddydau Cymru... Mae’n bleser gennym
gyhoeddi fod Cyngor Celfyddydau Cymru’n parhau i’n cefnogi ni. Fodd bynnag, oherwydd cyfyngiadau ariannol
hirdymor, mae angen i ni godi prisiau tocynnau’n sylweddol eleni, i Ł45 ymlaen
llaw i oedolyn, Ł40 ymlaen llaw consesiwn ac Ł20 ymlaen llaw i blentyn. Mae’r rhai hynny ohonoch sydd wedi bod o’r
blaen yn gwybod y byddwch yn cael gwerth am arian am y prisiau hyn o hyd.
Os ydych chi ar
Facebook, ymunwch â grŵp yr ŵyl, lle gallwch lwytho’ch lluniau i fyny – byddem yn
dwlu eu gweld. Gallwch hefyd fod yn un
o’r cyntaf i glywed newyddion am yr ŵyl, gyda hysbysiadau am argaeledd
gwersylla a thocynnau, gweithdai, cerddorion, etc. Gallwch hefyd ein dilyn ar Twitter...
AC OS NAD YDYCH
WEDI BOD O’R BLAEN...
Mae Gŵyl Werin Gŵyr yn unigryw. Cynhelir hi yn lleoliad cartrefol iard dan do
y Ganolfan Dreftadaeth, wedi’i amgylchynu gan siopau crefftau a melin wlân a
dŵr ar waith. Cerddoriaeth wych,
golygfeydd Gŵyr a bar cwrw go iawn!
Mae’r awyrgylch yn chwedlonol, gyda’r gynulleidfa a’r perfformwyr yn
aelodau o grŵp cerddorol unigryw a gynhelir mewn lleoliad arbennig iawn -
Penrhyn Gŵyr. Mae nifer y tocynnau
wedi’i gyfyngu i 350, felly byddwch yn adnabod pawb yn ddigon buan. Mae llawer o bobl yn mwynhau dechrau’r diwrnod
drwy gerdded i lawr o’r gwersyll ac ar draws y traeth, yna i fyny dyffryn y Tri
Chlogwyn i safle’r ŵyl. Mae hon yn ardal
o harddwch naturiol eithriadol gyda thraethau tywod, adfeilion cestyll a merlod
gwyllt, oll o fewn pellter cerdded i’r ŵyl.
Mae’r holl wybodaeth y bydd ei hangen arnoch am yr ŵyl i’w cael ar y
tudalennau hyn.
|