SUT I GYRRAEDD
Canolfan Dreftadaeth Gŵyr, Parkmill, Gŵyr, SA3 2EH.  Map
Mae pentref Parkmill 8 milltir i’r gorllewin o Abertawe ar yr A4118 (heol de Gŵyr).  Mae bws rhif 18 yn rhedeg o ganol dinas Abertawe bob dwy awr, ond ddim fin nos. Amserlen

O FAE ABERTAWE / CYFFORDD 42 YR M4
Ewch ar hyd yr A483 i Abertawe a pharhau rownd y bae tuag at y Mwmbwls. Dilynwch yr arwyddion brown i dde Gŵyr a throwch i’r dde ar y B4436. Arhoswch ar yr heol hon am tua 4 milltir (drwy bentref bach Kittle).  Cymerwch yr heol nesaf ar y dde tuag at Ganolfan Dreftadaeth Gŵyr. Ewch i’r chwith ar y gyffordd T nesaf; mae’r Ganolfan tua milltir i lawr yr heol ar y dde (13 milltir o’r M4).

O GANOL / GOGLEDD ABERTAWE
Cymrwch yr A4118 i Gilâ Uchaf a Chomin Fairwood. Cadwch i fynd heibio’r maes awyr tan i chi gyrraedd Parkmill. Mae Canolfan dreftadaeth Gŵyr ar eich dde wrth Shepherds Shop.
 
 The information given on this website is correct to the best of our knowledge.
We reserve the right to make changes where this is unavoidable.
  Site Map