GWEITHDAI:

Mae’r amserau ar drefn y rhaglen, ac unrhyw newidiadau munud olaf ar y dudalen
newyddion.

Dawns – bydd Kerry yn cynnal ei gweithdy nos Wener arferol mewn dawnsiau Ewropeaidd, a fydd yn cynnwys y dawnsiau y bydd The Angles yn eu chwarae nes ymlaen.  Bydd Climax Ceilidh Band yn canu dawnsiau ceilidh yn bennaf, gyda’r geilwad Peter Rees.
Bydd Kerry hefyd yn cynnal gweithdy polska ddydd Sadwrn.  Yna ddydd Sul, bydd Katherine Soutar-Caddick, neu Kaheesha, yn cynnal gweithdy bolddawnsio.
Yn ychwanegol, rydym wedi gwrando ar geisiadau gan ein dawnswyr – byddwn yn gwneud lle brynhawn Sul er mwyn i chi allu dawnsio ar yr iard i gerddoriaeth wych Arcadia – nifer o donau dawns Swedaidd a Ffrengig.


Gweithdai - rhaglen lawn i’w chwblhau!  Wedi’u cadarnhau hyd yma: Chwarae ar gyfer gweithdy dawns Ffrengig gyda The Angles, sesiwn helaeth ar gyfer unrhyw offeryn, yn canolbwyntio ar gael "Ffrangeg" a "dawns" i mewn i gerddoriaeth ddawns Ffrengig.  Bydd ail hanner y gweithdy hwn yn croesawu dawnswyr i ddod a mwynhau!
Rydym hefyd yn gobeithio cynnal gweithdai ffidl, melodion, acordion piano, canu, mandolin...




SESIYNAU
Mae llwythi o gyfleoedd i ganu neu chwarae.  Am hanner dydd, ddydd Sadwrn a Sul, bydd sesiynau "Come All Ye", wedi’u trefnu fel y Clwb Gwerin, h.y. bydd pawb yn cael cyfle i gael tro.  Mae hefyd sesiwn dydd Gwener yn y capel sy’n cael ei redeg yn yr un modd a’r "Big Sing" yn y capel yn gynnar nos Sul.  Os mai dim ond jamio gydag eraill yr hoffech ei wneud, mae digon o gorneli tawel o gwmpas y safle ac mae croeso i chi eu defnyddio, cyhyd â’ch bod yn peidio ag amharu ar y brif ardal gyngerdd.  Oblegid natur y safle, mae gofyn i chi gael tocyn er mwyn defnyddio’r llefydd hyn.
Os gallwch aros am ddiwrnod arall, bydd sesiwn i gloi’r Ŵyl yn y Greyhound Inn, Llanrhidian, nos Lun.

 
 The information given on this website is correct to the best of our knowledge.
We reserve the right to make changes where this is unavoidable.
  Site Map