BWYD, DIOD A HANFODION ERAILL Bydd bar hollbwysig yr ŵyl ar agor drwy gydol y penwythnos ac fe’i cedwir gan y King’s Head o Langennith, a fydd yn gweini cwrw go iawn. Bydd ystafelloedd te'r Ganolfan Dreftadaeth yn darparu diodydd ysgafn, te, coffi, byrbrydau ac amrywiaeth o brydau bwyd twym. Mae hefyd siopau pob peth yn y pentref, sydd ar agor 7 diwrnod yr wythnos. Ond noder bod y peiriant arian agosaf sawl milltir i ffwrdd, a’r garej agosaf hefyd. Mae’r fferyllfa agosaf filltir i ffwrdd, ym Mhennard.
GWEITHGAREDDAU I’R PLANT Mae Canolfan Dreftadaeth Gŵyr yn gartref i amrywiaeth o grefftau traddodiadol, gyda siopau ble gallwch eu prynu, ac arddangosiadau rheolaidd o durnio coed a gwehyddu. Mae gweithgareddau megis creu pypedau, crochenwaith a gweithdai crefft ar gael i blant (am gost ychwanegol). Bydd y plant hefyd yn cael hwyl wrth weld yr holl hwyaid, ieir a defaid yn ardal chwarae’r pwll tywod. Am raglen o ddigwyddiadau wedi’i diweddaru, ewch i wefan y Ganolfan. Mae’r Ganolfan yn croesawu plant, ac mae cadeiriau uchel ar gael yn y caffi a mat newid yn y toiledau. Mae gweithgareddau eraill ar gael yn y Gŵyr, gan gynnwys marchogaeth, barcutiaid, tirfyrddio, syrffio. Ewch i’r dudalen cysylltiadau am fanylion pellach ar ble i ddod o hyd iddynt.
CYFLEUSTERAU I BOBL AG ANABLEDDAU Rydym yn ceisio sicrhau bod yr Ŵyl yn ddigwyddiad â mynediad cyfartal. Mae Canolfan Dreftadaeth Gŵyr yn safle treftadaeth, fel mae’r enw’n ei awgrymu, felly mae’r arwynebau dan draed yn gallu bod yn anwastad. Ond mae bron pob man yn gyraeddadwy gyda gofal. Mae’r gweithdai’n cael eu cynnal yn y capel lleol, sydd yn gosod ramp mynediad hawdd a mannau parcio i’r anabl ar hyn o bryd. Mae lle i gadeiriau olwyn ar y gwasanaeth bws diwedd-y-noson i’r maes gwersylla, ond byddai o gymorth i ni petaech yn rhoi gwybod i ni os oes angen ei ddefnyddio pan fyddwch yn cadw’ch lle. Gosododd y maes gwersylla gyfleusterau ar gyfer cadeiriau olwyn y llynedd. Rhowch wybod i ni os oes unrhyw ofynion penodol gennych wrth gadw lle er mwyn hwyluso’ch ymweliad.
The information given on this website is correct to the best of our knowledge. We reserve the right to make changes where this is unavoidable.